2015 Rhif 1920 (Cy. 286)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae adrannau 189 i 191 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswyddau (“dyletswyddau dros dro”) ar awdurdodau lleol yng Nghymru i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion, neu anghenion gofalwyr am gymorth, o dan amgylchiadau pan fo darparwyr cofrestredig gofal yn methu â pharhau i weithredu oherwydd “methiant busnes”.

Maeʼr Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn âʼr dehongliad, at y dibenion hynny, o “methiant busnes” ac ynglŷn âʼr amgylchiadau pan fo person iʼw drin fel pe baiʼn methu â gwneud rhywbeth oherwydd “methiant busnes”.

Mae rheoliad 2 yn nodiʼr digwyddiadau syʼn gyfystyr â “methiant busnes” at ddibenion y dyletswyddau dros dro ar awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mewn perthynas â darparwr, nad yw’n unigolyn, sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru, mae methiant busnes yn cynnwys—

—   penodi gweinyddwr;

—   penodi derbynnydd;

—   penodi derbynnydd gweinyddol;

—   pasio penderfyniad i ddirwyn busnes i ben yn wirfoddol mewn achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr;

—   gwneud gorchymyn dirwyn i ben;

—   gwneud gorchmynion methdalu pan fo aelodau unigol o bartneriaeth yn cyflwyno deiseb methdalu ar y cyd;

—   mewn perthynas ag elusen anghorfforedig, ymddiriedolwyr yr elusen yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;

—   pob aelod o bartneriaeth yn cael ei wneud yn fethdalwr; neu

—   trefniant gwirfoddol yn cael ei gymeradwyo o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (“Deddf 1986”) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (“Gorchymyn 1989”).

Mewn perthynas â darparwr syʼn unigolyn sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru, mae “methiant busnes” yn cynnwys yr unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr neuʼn cynnig trefniant gwirfoddol unigol neuʼn ymrwymo i drefniant oʼr fath o dan Ran 8 o Ddeddf 1986 neu Ran 8 o Orchymyn 1989, neu fod yr unigolyn yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf 1986 neu Ran 7A o Orchymyn 1989.

O dan y Ddeddf, maeʼr dyletswyddau dros dro yn cael eu sbarduno pan fo darparwr cofrestredig yn methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neuʼn methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes. Mae rheoliad 2(1)(b) yn darparu bod darparwr iʼw drin fel pe baiʼn methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neuʼn methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes os yw methiant y darparwr â gwneud hynny yn dilyn methiant busnes.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2015 Rhif 1920 (Cy. 286)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015

Gwnaed                            18 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Tachwedd 2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 191(7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Methiant Busnes) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau” (“a members’ voluntary winding up”) yw dirwyn busnes i ben pan fo datganiad statudol wedi ei wneud o dan adran 89 o Ddeddf 1986 neu erthygl 75 o Orchymyn 1989([2]);

ystyr “darparwr” (“a provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([3]) mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth;

ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Ansolfedd 1986([4]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Gorchymyn 1989” (“the 1989 Order”) yw Gorchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989([5]);

ystyr “y swm perthnasol” (“the relevant amount”) ywʼr swm a bennir yn adran 123(1)(a) o Ddeddf 1986 (diffiniad o fethiant â thalu dyledion).

Methiant busnes

2.(1)(1) At ddibenion adrannau 189 a 191 oʼr Ddeddf—

(a)     mae i fethiant busnes yr ystyr a roddir ym mharagraffau (2) i (5); a

(b)     mae darparwr iʼw drin fel pe baiʼn methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neuʼn methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes os yw methiant y darparwr â gwneud hynny yn dilyn methiant busnes.

(2) Pan na fo darparwr yn unigolyn, mae methiant busnes yn golygu, mewn cysylltiad âʼr darparwr hwnnw—

(a)     bod penodi gweinyddwr (o fewn yr ystyr a roddir i “administrator” gan baragraff 1(1) o Atodlen B1 i Ddeddf 1986([6]) neu baragraff 2(1) o Atodlen B1 i Orchymyn 1989([7])) yn cymryd effaith;

(b)     bod derbynnydd yn cael ei benodi;

(c)     bod derbynnydd gweinyddol fel y diffinnir “administrative receiver” yn adran 251 o Ddeddf 1986 neu erthygl 5 o Orchymyn 1989 yn cael ei benodi;

(d)     bod penderfyniad i ddirwyn busnes i ben yn wirfoddol yn cael ei basio ac eithrio mewn achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau;

(e)     bod gorchymyn dirwyn i ben yn cael ei wneud;

(f)      bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent)([8]) yn cael ei wneud;

(g)     bod gorchymyn yn rhinwedd erthygl 11 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent (Gogledd Iwerddon) 1995 (deiseb methdalu ar y cyd gan aelodau unigol o bartneriaeth ansolfent)([9]) yn cael ei wneud;

(h)     bod ymddiriedolwyr elusen y darparwr yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;

(i)      bod pob aelod oʼr bartneriaeth (mewn achos pan foʼr darparwr yn bartneriaeth) yn cael ei wneud yn fethdalwr; neu

(j)      bod trefniant gwirfoddol sydd wedi ei gynnig at ddibenion Rhan I o Ddeddf 1986([10]) neu Ran 2 o Orchymyn 1989 wedi ei gymeradwyo o dan y Rhan honno oʼr Ddeddf honno neuʼr Gorchymyn hwnnw.

(3) Mewn perthynas â darparwr syʼn unigolyn, mae methiant busnes yn golygu—

(a)     bod yr unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr;

(b)     bod yr unigolyn yn cynnig trefniant gwirfoddol yn unol â Rhan 8 o Ddeddf 1986 neu Ran 8 o Orchymyn 1989 neuʼn ymrwymo i drefniant oʼr fath; neu

(c)     bod gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud o dan Ran VIIA o Ddeddf 1986 neu Ran 7A o Orchymyn 1989([11]).

(4) At ddibenion paragraff (2)(h), mae person yn ymddiriedolwr elusen darparwr—

(a)     os ywʼr darparwr yn elusen syʼn anghorfforedig; a

(b)     os ywʼr person yn un o ymddiriedolwyr yr elusen honno.

(5) At ddibenion paragraff (2)(h), mae ymddiriedolwyr elusen darparwr iʼw trin fel pe baent yn methu â thalu eu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus—

(a)     os yw credydwr y mae ar yr ymddiriedolwyr iddynt swm syʼn fwy naʼr swm perthnasol a oedd yn ddyledus bryd hynny wedi cyflwyno iʼr ymddiriedolwyr archiad ysgrifenedig syʼn ei gwneud yn ofynnol iʼr ymddiriedolwyr dalu’r swm syʼn ddyledus felly a bod yr ymddiriedolwyr, am 3 wythnos wedi hynny, wedi peidio â thaluʼr swm neu ei sicrhau neu gyfamodi i’w dalu er boddhad rhesymol y credydwr;

(b)     yng Nghymru a Lloegr, os yw darafaeliad neu broses arall a ddyroddir ar ddyfarniad, archddyfarniad neu orchymyn llys o blaid un o gredydwyr yr ymddiriedolwyr heb ei bodloni yn gyfan gwbl neuʼn rhannol;

(c)     yn yr Alban, os yw induciae archiad am daliad ar archddyfarniad cryno, neu fond cofrestredig cryno, neu brotest cofrestredig cryno, wedi dod i ben heb i daliad gael ei wneud; neu

(d)     yng Ngogledd Iwerddon, os yw tystysgrif anorfodadwyedd wedi ei rhoi mewn cysylltiad â dyfarniad yn erbyn yr ymddiriedolwyr.

 

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2015



([1])           2014 dccc 4.

([2])           Gweler O.S. 2001/1090 a 2012/3013 o ran cymhwyso adran 89 i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Sefydliadau Elusennol Corfforedig yn ôl eu trefn. O ran cymhwyso adran 89 i gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol, gweler adran 123 o Ddeddf Cwmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (p. 14). O ran cymhwyso erthygl 75 o Orchymyn 1989 i gymdeithasau diwydiannol a darbodus yng Ngogledd Iwerddon, gweler adran 64 o Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 (p. 24), fel yʼi hamnewidiwyd gan O.S. 2009/1941.

([3])           2000 p. 14.

([4])           1986 p. 45.

([5])           O.S. 1989/2405 (G.I. 19).

([6])           Mewnosodwyd Atodlen B1 gan adran 248(2) o Ddeddf Menter 2002 (p. 40), ac Atodlen 16 iddi. O ran cymhwyso Rhan 2 o Ddeddf 1986 i gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol, gweler O.S. 2014/229 fel yʼi diwygiwyd gan O.S. 2014/1822.

([7])           Mewnosodwyd Atodlen B1 gan O.S. 2005/1455 (G.I. 10).

([8])           O.S. 1994/2421.

([9])           Rh.St. (G.I.) 1995 Rhif 225.

([10])         O ran cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1986 i gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol, gweler O.S. 2014/229 fel yʼi diwygiwyd gan O.S.

([11])         Mewnosodwyd Rhan 7A o Orchymyn 1989 gan Ddeddf Rhyddhau o Ddyled (Gogledd Iwerddon) 2010 (p. 16).